Blwyddyn o dorri record yng Nghymru
Rydw i’n falch o ddweud y bu’n flwyddyn sydd wedi torri pob record yng Nghymru. Mae gennym fwy o aelodau yma nag erioed o’r blaen, rydym wedi codi ein cyfanswm uchaf wrth godi arian cymunedol, rydym wedi ymgysylltu mwy o blant â natur, rydym wedi defnyddio technoleg tagio lloeren am y tro cyntaf ar ddwy rywogaeth ac mae mwy o rai adar wedi cyrraedd ein gwarchodfeydd. Parhewch i ddarllen!
Newyddion ynglŷn â rhywogaethau yng Nghymru
Ers 2017, gellir gweld y gytref fridio fwyaf o gornchwiglod yng Nghymru yn awr yn RSPB Cors Ddyga ar Ynys Môn. Pan brynwyd y tir, dyrnaid o barau oedd yno yn unig, ond yn awr mae 76 pâr o gornchwiglod ar y warchodfa, sydd wedi codi o 42 yn 2016. Mae hyn yn cyfateb i 15% o’r boblogaeth bridio yng Nghymru.
Ar ôl blynyddoedd o waith cadwraeth, roedd pâr o adar y bwn a phâr o fodaod y gwerni yn bridio ar ein gwarchodfeydd yn Ynys Môn yn ystod 2016, yn dilyn degawdau o absenoldeb fel adar bridio yng Nghymru. Yn 2017, gwelwyd y ddwy rywogaeth yn dychwelyd i fridio unwaith eto, gyda newyddion gwych bod dau bâr o adar y bwn wedi cael eu cadarnhau y llynedd a phedwar o wrywod yng ngwanwyn 2018. Mae hyn yn golygu y gallwn gadarnhau bod adar y bwn yn awr yn fridwyr rheolaidd yng Nghymru.
Tagio lloeren yn datgelu cyfrinachau
Rydym wastad yn awyddus i ddarganfod mwy am ein rhywogaethau sydd o dan y bygythiad mwyaf, a diolch i gyllid gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), fe weithiom gyda phartneriaid i dagio dau o wyddau talcen-wyn yr Ynys Las gydag offer lloeren. Yn y 1990au, roedd dros 150 o’r adar hyn yn gaeafu ar afon Dyfi yng nghanolbarth Cymru.
Yn awr, oddeutu 20 o’r adar hyn sy’n dychwelyd bob blwyddyn. Galluogodd y dechnoleg ni i gael gwell dealltwriaeth o siwrneiau mudol yr adar a’u defnydd o ardaloedd amrywiol o gwmpas afon Dyfi. Er syndod inni, hedfanodd un o’r adar a dagiwyd i ymuno â phoblogaeth y gwyddau yn yr Iwerddon, gan awgrymu bod poblogaeth gaeafu’r adar yn y DU yn fwy symudol a dynamig nag yr oeddem yn ei gredu’n wreiddiol.