Feature

Gwarchod ein hadar ysglyfaethus. Amddiffyn eu dyfodol

Er gwaethaf cyfreithiau a fwriedir i warchod adar ysglyfaethus, maen nhw’n dal i gael eu saethu, eu dal a’u gwenwyno ar draws y Deyrnas Unedig. Cefnogwch dîm Ymchwiliadau’r RSPB heddiw a’n helpu ni i gadw’r adar godidog hyn yn yr awyr fry, lle maen nhw i fod.

A lone Golden Eagle sat in moorland.
On this page

Gwarth cenedlaethol

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, gwelwyd dros 1,500 o achosion o erlid adar ysglyfaethus yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Boda Tinwyn, yr Eryr Cynffonwyn, yr Eryr Aur, yr Hebog Tramor, y Gwalch Marthin a’r Barcud Coch.  Mae’r adar godidog hyn yn cael eu dal, eu saethu a’u gwenwyno ar raddfa fawr, er eu bod yn cael eu diogelu o dan gyfreithiau’r DU. Gwyddom fod y rhan fwyaf yn cael eu lladd ar dir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer saethu adar hela, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol a thirweddau gwarchodedig eraill.

Ond cipolwg ar y gwir yn unig yw’r digwyddiadau hyn.

Mae’r achosion creulon ac anghyfreithlon o ladd adar ysglyfaethus yn warth cenedlaethol. Mae hefyd yn ansefydlogi rhai poblogaethau adar ysglyfaethus ac yn atal adferiad y Boda Tinwyn fel rhywogaeth. Mae mor ddifrifol â hynny.

Rydw i eisiau amddiffyn adar ysglyfaethus

Gwyliwch y fideo:

Help stop the killing.

Dal y troseddwyr

Does neb yn ymchwilio i droseddau yn erbyn adar gwyllt fel ni. Hebom ni, byddai llawer o’r troseddau hyn yn dal heb eu canfod ac ni fyddai’r troseddwyr sy’n lladd adar yn farbaraidd fel hyn yn cael eu dal. Mae Tîm Ymchwiliadau’r RSPB wedi ymrwymo i ddiogelu adar ysglyfaethus ac mae ein swyddogion yn gweithio oriau hir, ym mhob tywydd, yn aml mewn mannau anghysbell, i fynd ar drywydd adroddiadau gwybodaeth ac i gasglu tystiolaeth o droseddau. Rydym wedyn yn gweithio ochr yn ochr â’r heddlu i geisio dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Ni hefyd sy’n cynnal yn ofalus yr unig set ddata hirdymor sy’n cofnodi pob achos o erlid adar ysglyfaethus ledled y Deyrnas Unedig.

Helpwch ni i frwydro’n ôl

Fel elusen, rydyn ni’n dibynnu ar eich help chi, ac rydyn ni angen eich help chi nawr yn fwy nag erioed. Bydd pob ceiniog a roddwch yn mynd yn uniongyrchol i’r Tîm Ymchwiliadau, gan ein helpu i barhau â’n gwaith hanfodol ledled y Deyrnas Unedig - gan ymchwilio i droseddau yn erbyn adar ysglyfaethus a’u herio, a gwthio am well gwarchodaeth.

Wnawn ni ddim stopio nes bydd y lladd yn stopio. Cyfrannwch heddiw a’n helpu ni i ddod o hyd i fwy o droseddau cudd yn erbyn adar. Gall eich help chi ein helpu ni i roi mwy o draed ar y ddaear, er mwyn inni allu helpu i gadw mwy o’n hadar ysglyfaethus godidog yn yr awyr uwch ein pen. 

Rydw i eisiau amddiffyn adar ysglyfaethus

Head of a female White-tailed Eagle in captivity

Gyda’n gilydd, gallwn roi dyfodol mwy disglair i’n hadar ysglyfaethus

Mae graddfa’r erlid anghyfreithlon yn y Deyrnas Unedig yn syfrdanol, ond y newyddion da yw ein bod yn cymryd camau breision ymlaen. Yn dilyn degawdau o ymgyrchu gan yr RSPB ac eraill, mae trwyddedu rhostiroedd grugieir bellach yn gyfraith yn yr Alban, gydag ystadau’n wynebu’r risg o sancsiynau llym am ymwneud ag erlid adar ysglyfaethus. Ond mae gwir angen mabwysiadu hyn yn Lloegr i wneud yn siŵr, ar ôl degawdau o erledigaeth ddi-baid, fod gan ein hadar ysglyfaethus ddyfodol mwy disglair. 

Rhoddwch heddiw a helpu Tîm Ymchwiliadau’r RSPB i atal troseddau yn erbyn adar ysglyfaethus.

Rwyf eisiau cyfrannu

Red Kite portrait.
Red Kite
Darllenwch y diweddaraf am droseddau yn erbyn adar

Am 15 mlynedd, rydym ni wedi bod yn creu’r adroddiad Birdcrime, sy’n rhoi manylion fel y mae adar ysglyfaethus gwarchodedig yn cael eu saethu, eu dal a’u gwenwyno yn y Deyrnas Unedig.  Gyda’i gilydd, mae’r adroddiadau hyn yn rhoi cofnod amhrisiadwy a chynhwysfawr o lle, pryd a sut mae adar ysglyfaethus yn cael eu lladd yn anghyfreithlon yn ogystal ag o droseddau eraill yn erbyn adar.

Gallwch ddarllen yr adroddiad diweddaraf yma.

Hen Harrier carrying Meadow Pipit chick as prey back to nest
Hen Harrier
Helpwch ni i stopio’r lladd

“Mae Tîm Ymchwiliadau’r RSPB yn chwarae rhan hollbwysig i atal ac amlygu troseddau yn erbyn adar ysglyfaethus, ond mae gwir angen eich help arnom i gynnal y gwaith hanfodol hwn.”

Mark Thomas, Pennaeth Ymchwiliadau RSPB y Deyrnas Unedig

Share this article