Feature

Beth am gydweithio ar brosiect sy’n unigryw drwy’r byd

Mae Prosiect Bywyd Gwyllt Brodorol Ynysoedd Erch yn unigryw ac ar drobwynt. Drwy gyfrannu heddiw byddwch yn rhan o waith arbennig i amddiffyn a gwarchod yr hafan bywyd gwyllt hon.

Two Oystercatchers perched on a dilapidated stone building situated on a stretch of peatland.
On this page

Pam fod eich help mor bwysig i fywyd gwyllt Ynysoedd Erch

Wrth ymweld ag Ynysoedd Erch, ynysfor oddi ar arfordir yr Alban, byddwch yn dod ar draws cyfoeth o fywyd gwyllt. Ond mae bygythiad newydd yn peryglu’r bywyd hwn, gan gynnwys Llygod Pengrwn Ynysoedd Erch sydd i’w chael yn unlle arall ar y ddaear.

Heb greaduriaid ysglyfaethus fel y Llwynog, Mochyn Daear a’r Wenci, daeth Ynysoedd Erch yn hafan i adar arbennig dan fygythiad sy’n nythu ar y ddaear, fel y Gylfinir a’r Boda Tinwyn. Ond yn 2010 cafodd y Carlwm cyntaf ei ddarganfod yn yr Ynysoedd. Oherwydd nad yw bywyd gwyllt yr Ynysoedd wedi addasu i fyw gyda’r creadur rheibus hwn, mae wedi cael effaith ddinistriol iawn. Nid oes gan y Carlwm greadur ysglyfaethus naturiol ar yr Ynysoedd, mae’n magu’n sydyn a bwyta mamaliaid, adar a’u hwyau gan roi llawer o fywyd gwyllt yr Ynysoedd yn y fantol.

Yn 2019, penderfynwyd cyflwyno rhaglen gwbl unigryw drwy’r byd i symud y Carlwm oddi yno. Roedd blynyddoedd cyntaf y prosiect yn llwyddiant ysgubol cyn i bandemig Covid arafu’r cynnydd hwnnw. Gyda’ch cefnogaeth chi, rhaid i ni barhau ein hymdrechion i sicrhau bod cri hiraethus ac arbennig y Gylfinir a dawnsio ysblennydd y BodaTinwyn yn parhau ar yr Ynysoedd.

Helpwch i gadw cri’r Gylfinir

 

Bygythiad i fywyd gwyllt ar Ynysoedd Erch

Gan orchuddio dim ond 0.4% o holl dir y DU, mae Ynysoedd Erch yn gartref i gyfran enfawr o rai o’n rhywogaethau mwyaf bregus. Yn 2019, roedd hyn yn cynnwys 11% o adar môr magu’r DU, 20% o’n Boda Tinwyn a mwy na thraean o’n Sgiwennod Mawr a Sgiwennod y Gogledd. Ar draws y DU mae’r rhywogaethau hyn yn darfod o ganlyniad i golli cynefin, ffynonellau bwyd prin a chael eu herlid. Mae lleoliad anghysbell Ynysoedd Erch wedi cynnig lloches ers tro byd ond mae’r Carlwm dieithr hwn yn rhoi hyn yn y fantol.

Ynghyd ag adar sy’n nythu ar y ddaear Fel y Pâl a’r Gylfinir, mae’r Carlwm hwn hefyd yn bygwth Llygod Pengrwn Ynysoedd Erch. Mae Llygod Pengrwn Ynysoedd Erch yn rhywogaeth nad yw i’w chael yn unlle arall yn y byd ac mae’r Carlwm rheibus hwn yn bygwth ei darfod am byth.

Gallwch chi wneud gwahaniaeth.

Llwyddiant hyd yma

Mae canlyniadau’r prosiect hwn yn rhyfeddol. Ers lansio yn 2019 mae rhywogaethau brodorol pwysig wedi dechrau adfywio. Mae poblogaeth Llygod Pengrwn Ynysoedd Erch wedi dyblu bron, mae llwyddiant nythod y Gylfinir wedi cynyddu o 289% a nifer y Boda Tinwyn sy’n magu wedi dyblu.

Ond yn 2020 wynebodd y prosiect heriau newydd gyda phandemig Covid. Dechreuodd nifer y Carlwm gynyddu eto fel bod angen i ni ymestyn ein prosiect. Drwy gyfrannu, byddwch yn helpu i gwblhau prosiect fydd yn gweld bywyd gwyllt Ynysoedd Erch yn dychwelyd.

Beth am gyfrannu i orffen y gwaith.

A lone Curlew stood on moorland.

Cadwraethwyr anghyffredin

Os meddyliwch am bwy sy’n rhan o waith cadwraeth, efallai na fyddech yn meddwl am gŵn. Ond mae ein tîm anhygoel o gŵn cadwraeth yn defnyddio eu trwynau hynod sensitif i ffroeni a dod o hyd i’r creaduriaid rheibus ymwthiol hyn.

Pan fydd pobl leol yn rhoi gwybod i ni am leoliad y carlwm, anfonwn y cŵn ar eu holau. Mae’r helgwn hyn yn defnyddio 300 miliwn o dderbynyddion arogl yn eu trwynau i ffroeni baw’r Carlwm. Mae hyn yn dweud wrthym ble’n union i ddod o hyd i’r Carlwm i’w symud, hyd yn oed ar draws holl eangderau’r Ynysoedd. Diolch i’ch cefnogaeth chi heddiw bydd Spud, Scout, Thorn, Red, Skye, Bodie, Fizz, Pongo a Charlie’n parhau i helpu i gadw’r Ynysoedd yn ddiogel. Gall eich cyfraniad helpu i ofalu am yr aelodau hynod werthfawr hyn o’r tîm, i wneud y gwaith gwerthfawr o ddod o hyd i’r Carlwm a’u hatal rhag byth dychwelyd i Ynysoedd Erch.

Cyfrannwch i gefnogi ein tîm o gŵn cadwraeth.

Skye the dog working on the Orkney Native Wildlife Project

Ymdrech cymuned gyfan

Rydym yn dra diolchgar i bawb sy’n rhan o’r prosiect, gan gynnwys llawer o’r bobl sy’n byw ar Ynysoedd Erch. O roi gwybod ble y gwelsant y Carlwm i adael i ni fynd ar eu tir, ni fyddai’r llwyddiannau hyd yma wedi digwydd heb i’r gymuned ddod at ei gilydd a chyfrannu oriau o amser yn gwirfoddoli i helpu’r prosiect.

Mae cymuned Ynysoedd Erch yn dibynnu ar natur a harddwch yr ynysoedd, wrth i eco-dwristiaeth roi hwb i’w heconomi. Gallai’r Carlwm hwn gael effaith ddinistriol ar fywyd gwyllt a phobl yr Ynysoedd hyn.

Ble bynnag yr ydych yn byw, gallwch wneud gwahaniaeth a bod yn rhan o’r stori lwyddiant cadwraeth hon. Cyfrannwch heddiw i sicrhau bod yr ynysoedd hudolus hyn yn aros felly am byth.

Cyfrannwch rŵan

Dysgu mwy

Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn yn bartneriaeth rhwng RSPB Yr Alban, NatureScot a Chyngor Ynysoedd Erch. Diolch i gefnogwyr fel chi, a gyda chyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, EU-LIFE a Chronfa Adfer Natur Llywodraeth yr Alban, ac wedi’i reoli gan NatureScot, mae’r prosiect yn helpu i warchod treftadaeth naturiol yr Ynysoedd drwy geisio cael gwared ar rywogaeth ymwthiol, anfrodorol: y Carlwm.

Gallwch ddysgu mwy am Brosiect Bywyd Gwyllt Ynysoedd Erch yma.

Share this article