Mae adar y to ar y brig am y 19eg flwyddyn yn olynol. Ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gadw golwg ar adar y to gan fod llawer llai o gwmpas bellach. Mae'r boblogaeth wedi gostwng cymaint fel eu bod ar Restr Goch Adar y DU ar gyfer adar – byddai unrhyw ostyngiad pellach yn ddinistriol.

Arolwg Gwylio Adar yr Ardd 2022: Y canlyniadau
Mae'r aros drosodd, ac mae'r canlyniadau wedi cyrraedd! Bu 697,735 o bobl yn cyfri 11,556,046 o adar eleni. Mae hynny'n rhoi cipolwg gwych inni o sefyllfa’r adar yn ein gerddi, felly diolch am gymryd rhan. Cofiwch rannu eich straeon Birdwatch a'ch lluniau drwy ddefnyddio #GwylioAdarYrArdd.

Aderyn y to yw rhif un eto!
2-4
-
Titw tomos las
Ffefryn pendant ar y bwydwyr, mae’r titw tomos las wedi cadw ei safle yn rhif dau yn yr Arolwg Gwylio Adar.
-
Drudwen
Unwaith eto, yn y trydydd safle, ond fel adar y to, mae poblogaethau drudwy wedi gostwng mewn gwirionedd.
-
Ysguthan
Mae’r ysguthan, yn wahanol i rywogaethau eraill lle gwelwyd gostyngiad yn y boblogaeth, wedi codi un safle.
5-7
-
Mwyalchen
Mae’r mwyeilch wedi gostwng un safle i rif pump, ond maen nhw'n dal i fod yn adar gardd cyffredin.
-
Robin goch
Aderyn gardd (a cherdyn Nadolig) poblogaidd, mae'r robin goch wedi cadw ei safle yn rhif chwech.
-
Nico
Gan ddringo'n araf i fyny'r rhengoedd, mae'r nico wedi codi un safle, o wyth i saith, yn 2022.
8-10
-
Titw mawr
Mae’r titw mawr wedi gostwng un safle eleni, o saith i wyth. Oedden nhw’n cael hyd i fwyd mewn mannau eraill y gaeaf hwn?
-
Pioden
Mae'r aderyn lliwgar hwn wedi cadw ei safle yn rhif naw yn Arolwg Gwylio Adar 2022.
-
Ji-binc
Mae wedi codi un safle o un ar ddeg, mae'r ji-binc wedi neidio ei ffordd i'r deg uchaf eleni.

Y ffeithiau: Gwylio Adar yr Ardd rhwng 1979 a 2022
Cynhaliwyd yr Arolwg Gwylio Adar cyntaf yn 1979 ac felly mae gennym bellach dros 40 mlynedd o ddata i'n helpu i ddeall sefyllfa adar yr ardd yn y DU. Mae'r tabl isod yn dangos y tueddiadau hirdymor ar gyfer rhai o'n hadar mwyaf cyfarwydd.

*nid oes cymariaethau â 1979 ar gael

Beth sy'n digwydd ym myd natur?
Eisiau gwybod mwy am sut mae poblogaethau adar yn newid yn y DU? Mae'r adroddiad Cyflwr Natur yn archwiliad iechyd ar sefyllfa bywyd gwyllt y DU. Fe’i lluniwyd drwy ddefnyddio data bywyd gwyllt gan grŵp o 50 o sefydliadau cadwraeth. Cyhoeddwyd yr adroddiad diweddaraf yn 2019 a chanfuwyd bod 15% o'r 8,431 o rywogaethau a aseswyd bellach mewn perygl o ddiflannu. Gallwch weld sut mae adar ac anifeiliaid eraill yn ffynnu ledled y DU, yn ogystal ag edrych ar y pwysau sy'n wynebu bywyd gwyllt a'r ymdrechion sy'n cael eu gwneud i achub natur.

Helpwch i brynu ac adfer tir hanfodol ar gyfer natur yn 2022
Mae'r DU wedi colli dros 38 miliwn o adar yn ystod y 50 mlynedd diwethaf ac yn sgil newid yn yr hinsawdd, gwyddom y bydd pethau'n gwaethygu. Dyna pam rydym wedi lansio apêl frys i helpu i brynu 75,000 hectar ychwanegol o dir ar gyfer natur yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Tir fel mawnogydd, sy'n gynefin i’r gylfinir a’r cwtiad aur, a morfeydd heli, sydd o fudd i adar hirgoes gwych fel y cambig. Gallwch helpu drwy roi rhodd heddiw.
Mwy o ffyrdd o fwynhau a gofalu am natur
-
Mynd yn wyllt gartref
Dysgwch sut i wneud y gorau o'r awyr agored a helpwch natur hefyd gyda Natur ar Garreg Eich Drws.
-
Cyfrannu at fyd natur
Helpwch ni i brynu mwy o dir i frwydro yn erbyn yr argyfwng natur a hinsawdd, adfer cynefinoedd naturiol ac achub bywyd gwyllt sydd dan fygythiad.
-
Diwrnod Côr y Bore Bach
Ymunwch â ni ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Côr y Wig ddydd Sul 1 Mai a phrofi natur a’i cherddoriaeth ar ei gorau.
Mae natur mewn trafferth, ond gyda'ch help chi gallwn ei achub
-
Ewch i siopa nawr
Prynwch rywbeth i chi eich hun, rhywun sy’n annwyl i chi neu eich bywyd gwyllt lleol, a helpwch ni i godi arian hanfodol ar gyfer natur
-
Ymunwch nawr
Cefnogwch ein gwaith i achub bywyd gwyllt ac ymunwch â'n cymuned weithgar o bobl sy'n hoff o natur.
-
Cyfrannwch nawr
Helpwch ni i wneud mwy i achub bywyd gwyllt, ac i adfer a diogelu lleoedd ar gyfer natur.
Downloads
PDF, 1.034mb
UK TOP 10 RESULTS 2022PDF, 1.022MB
ENGLAND TOP 10 RESULTS 2022PDF, 972kb
NORTHERN IRELAND TOP 10 RESULTS 2022PDF, 1.1kb
SCOTLAND TOP 10 RESULTS 2022PDF, 988kb
WALES TOP 10 RESULTS 2022PDF, 1.335mb
CANLYNIADAU CYMRU 2022PDF, 140kb
UK FULL 22 RESULTSPDF, 150KB
ENGLAND FULL RESULTS 2022PDF, 158KB
NORTHERN IRELAND FULL RESULTS 2022PDF, 166KB
SCOTLAND FULL RESULTS 2022PDF, 172KB
WALES FULL RESULTS 2022