Feature

Digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2025

Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn ôl ar gyfer 2025! Ymunwch â miloedd o ysgolion eraill i gael gwybod pa adar sy'n ymweld â thir eich ysgol. Gyda’n gilydd, gallwn wneud iddo gyfrif.

Three children sat on a wooden bench outside of their school.
On this page

English | Cymraeg

Yn y ffilm fer yma, cewch weld beth sy’n gwneud y digwyddiad yma'n un mor arbennig, gyda’r Pennaeth Cynorthwyol, Sam Clarke, a disgyblion Ysgol Gynradd Wigmore yn Luton. Gydag adnoddau arbenigol – o Gyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar i’r Uwchradd – mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn addas i bob dysgwr.

Digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2025
1:40

Maen hawdd cymryd rhan

1. Cofrestrwch heddiw

Cofrestrwch heddiw a byddwch yn cael eich cyfeirio at ein holl adnoddau ar-lein sy’n eich galluogi chi a’ch dosbarth i gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol. Mae nifer cyfyngedig iawn o becynnau wedi’u hargraffu ar gael eleni drwy wneud cais, felly byddem yn gwerthfawrogi pe gallech lawrlwytho ein hadnoddau digidol lle bo hynny’n bosibl. 

Mae ein holl adnoddau’n helpu i ddysgu’r cwricwlwm, gan gynnwys rhoi cofnodion hanesyddol Gwylio Adar yr Ysgol i chi er mwyn i chi allu cymharu’r hyn rydych chi’n ei weld. Mae’r holl adnoddau ar gael yn ddwyieithog i ysgolion yng Nghymru. 

2. Dechrau cyfrif

Dechreuwch gyfrif ar dir eich ysgol unrhyw bryd rhwng 7 Ionawr ac 14 Chwefror 2025. Defnyddiwch ein hadnoddau adnabod gwahaniaethol a’n taflenni arolwg i gofnodi’r nifer uchaf o bob rhywogaeth rydych chi’n ei gweld ar yr un pryd.

Beth am gymryd y cam cyntaf i gael gwybod am fyd natur sydd ar dir eich ysgol drwy ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol? Cwblhewch bum her arall a gallwch ennill eich Gwobr Her Wyllt Efydd. 

3. Cyflwyno’ch canlyniadau

Cyflwynwch eich canlyniadau ar-lein. Mae’n hawdd gwneud hyn gyda’ch dosbarth yn rhyngweithiol ar y bwrdd gwyn. Rydyn ni wir eisiau gwybod beth rydych chi’n ei weld, hyd yn oed os nad ydych chi’n gweld dim byd o gwbl. Byddwch yn cael tystysgrif i’w hargraffu ar gyfer eich dosbarth, ynghyd â dolen i adnodd data hanesyddol arall i gymharu’r hyn rydych chi wedi’i weld â chanlyniadau cenedlaethol y blynyddoedd blaenorol.

Y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno eich canlyniadau yw 24 Chwefror 2025. 

Two children outside of their school building, one in a red coat writing on a clipboard and the other in a green coat looking through binoculars.

Ehangu ymgysylltiad a dysgu eich disgyblion

Mae digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol yn cyfrif fel un gweithgaredd tuag at eich Gwobr Her Wyllt rhad ac am ddim gan yr RSPB. Beth am annog eich disgyblion i ddysgu drwy fyd natur, gan ddewis o fwy nag 20 o weithgareddau eraill. Wrth gwblhau pum gweithgaredd arall, byddwch yn ennill eich Gwobr Efydd, a chewch weithio eich ffordd tuag at y Wobr Aur. 

Cymryd rhan

Chwiliwch am RSPB Learning ar y cyfryngau cymdeithasol:
  1. Facebook
  2. X (Twitter yn flaenorol)
  3. Instagram
Share this article