Hwb

Gwylio Adar yr Ardd 2025

Cynhelir Gwylio Adar yr Ardd 2025 rhwng 24 a 26 Ionawr! Eisteddwch yn ôl, ymlaciwch a gwyliwch adar yr ardd am awr. P’un a ydych chi’n gwylio’r adar am y tro cyntaf, neu’n hen law ar wneud hyn - croeso! Mae pob ymdrech yn cyfrif, a byddem wrth ein bodd yn gwybod beth y byddwch chi’n ei weld. Efallai y cewch eich syfrdanu.

Two people birdwatching from an urban rooftop.

Cadwch y dyddiad: 24-26 Ionawr 2025

Dewch yn ôl ganol mis Rhagfyr a chofrestrwch i gymryd rhan yn arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt mewn gerddi. Yn 2024, bu 600,000 a mwy o bobl yn cymryd rhan – a gallech chi fod yn un ohonyn nhw.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut mae paratoi ar gyfer eich sesiwn orau erioed yn Gwylio Adar.

Ar ddiwrnod Gwylio Adar yr Ardd, mae’n hawdd mynd ati i gymryd rhan! Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw treulio awr yn gwylio’r adar yn eich gardd, o’ch balconi neu yn eich parc lleol, a dweud wrthym beth rydych chi wedi’i weld. Os nad ydych chi’n gweld llawer o adar, neu heb weld aderyn o gwbl, bydd hynny’n wybodaeth ddefnyddiol iawn i ni hefyd, felly cofiwch roi gwybod i ni.

Digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024: Y Canlyniadau

Dechreuodd digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd ym 1979, pan ofynnodd Blue Peter, y rhaglen deledu i blant, i wylwyr nodi pa adar roedden nhw wedi eu gweld. Mae llawer wedi newid ers y 1970au. Ond beth sydd wedi newid i’n hadar? Pa adar sydd wedi symud i fyny’r siartiau a pha rai sydd wedi symud i lawr?

9.7 miliwno adar yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024.
610,000+o bobl ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024.
12.1 miliwno oriau yn gwylio adar ers 1979.

Y pum aderyn a welir amlaf yn y DU

Aderyn y To yn dathlu ei unfed flynedd ar hugain ar frig siartiau Gwylio Adar yr Ardd. Y cymeriadau bach hyfryd hyn oedd yr adar a oedd yn cael eu gweld amlaf, a chofnodwyd 1,442,300 dros benwythnos Gwylio Adar yr Ardd 2024.

Aderyn y to
1,442,300
1
Aderyn y to
Titw tomos las
1,094,401
2
Titw tomos las
Drudwen
879,006
3
Drudwen
Ysguthan
835,408
4
Ysguthan
Aderyn Du
708,004
5
Aderyn Du

Gwyliwch ganlyniadau 2024 wrth iddynt gael eu datgelu

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydym yn datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar?

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2024: Pa aderyn ddaeth i’r brig?
Local Group members enjoying a wildlife walk

Dod yn aelod

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn dangos pŵer pobl yn dod at ei gilydd i weithredu dros fyd natur. Byddem wrth ein bodd petaech chi’n dod yn aelod. 

  • Mynediad at 170 a mwy o warchodfeydd natur yn y DU
  • Cylchgronau rheolaidd yr RSPB, sy’n llawn newyddion, erthyglau ac awgrymiadau 
  • Pecyn croeso i'ch helpu i wneud y mwyaf o'ch aelodaeth
A Blue Whale skeleton suspended from the ceiling of the Hintze Hall at the Natural History Museum, London.
© Trustees of the Natural History Museum 2024

Gweld Adar: Y Gwych a’r Rhyfedd yn yr Amgueddfa Hanes Natur

Gostyngiad o 20% oddi ar docynnau gydag aelodaeth RSPB. Rydym wedi partneru gyda’r Amgueddfa Hanes Natur ar arddangosfa newydd na ellir ei cholli, sy’n dangos sut mae adar wedi defnyddio technegau gwych a ddiddorol i ffynnu am fwy na 150 miliwn o flynyddoedd.

  • Ar agor rhwng 24 Mai 2024 a 5 Ionawr 2025 yn yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain.
  • Mae aelodau'r RSPB yn cael gostyngiad o 20% oddi ar docynnau.

Darganfod popeth am ddigwyddiad Gwylio Adar yr Ardd

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth? Gallwn ni eich helpu chi! O’r newyddion natur ac erthyglau arbenigol diweddaraf, i bethau i’w gwneud a digwyddiadau llawn hwyl, cymerwch olwg.

Hoffech chi gael ein cylchlythyr rheolaidd?

Drwy gofrestru ar gyfer e-byst yr RSPB, gallwch ddisgwyl - Derbyn y diweddariadau diweddaraf gan yr RSPB - I glywed popeth am ein gwaith i helpu bywyd gwyllt i ffynnu ledled y DU a thu hwnt - Awgrymiadau a chyngor cyfeillgar ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu i achub adar a thu hwnt. natur