Drwy Hedfan Fel Un mae llwyddo

Mae’r RSPB yn dod â phobl fel chi at ei gilydd, i warchod y pethau sy’n bwysig i ni i gyd. I roi hwb i’n gilydd ac i roi hwb i fyd natur.

Mae pethau gwych yn digwydd pan fyddwn yn cydweithio

Mae croeso i bawb yn yr RSPB, ac mae cymaint o wahanol ffyrdd o gymryd rhan, gallwch chi wneud rhywbeth bach, rhywbeth mawr, neu rywbeth yn y canol rhwng y ddau. Gallwch chi ein helpu ni i roi’r neges ar led, neu dorchi eich llewys yn y warchodfa natur leol, cymryd rhan mewn gweithgaredd i godi arian, neu ymuno â grŵp RSPB lleol. Pa ffordd bynnag y byddwch chi’n dewis cymryd rhan, mae eich cyfraniad yn bwysig, a gyda’n gilydd gallwn ni gael effaith gadarnhaol ar fyd natur.

Ymunwch â'r haid

Fe wnawn ni eich helpu i ddarganfod pa mor hawdd yw gweithredu dros natur, cymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Gall fod mor hawdd â gwneud dim byd – a gadael i’ch lawnt dyfu’n wyllt dros y gwanwyn i fod yn hafan i flodau gwyllt a phryfed. Ond os oes arnoch awydd gwneud rhywbeth ychydig yn fwy, mae hynny’n newyddion gwych hefyd! Yn ogystal â hyn, fe wnawn ni eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gysylltu â natur, a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y gwaith rydyn ni’n ei wneud i achub rhywogaethau a chynefinoedd.

Cymerwch y naid a hedfan am y tro cyntaf

Ymunwch â thîm o dros filiwn o bobl a chofrestrwch er mwyn cael newyddion am natur yn eich blwch derbyn bob pythefnos. Bob yn ail ddydd Sadwrn, byddwch chi’n derbyn neges ebost Notes on Nature – mae’r ebost poblogaidd hwn yn llawn straeon am lwyddiant, newyddion am yr hyn sy’n digwydd mewn gwarchodfeydd natur, ac awgrymiadau a chyngor defnyddiol.

Byddwch chi’n cael:

  • Awgrymiadau ar y bywyd gwyllt gorau i’w weld bob mis
  • Darganfod yr effaith rydym ni’n ei chael ar fyd natur drwy weithio gyda’n gilydd
  • Dysgu sut y gallwch chi helpu bywyd natur yn eich ardal chi.

Eisiau gwneud mwy?

Rydych chi wedi gwneud eich rhan chi dros fyd natur drwy gofrestru i dderbyn negeseuon ebost Notes on Nature. Ond, os hoffech chi wneud mwy, mae nifer o wahanol ffyrdd o gychwyn arni. Mae pob math o wahanol bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu - mawr a bach. Beth bynnag fyddwch chi’n dewis ei wneud, byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth.

A Puffin hopping along a mossy bank with nesting material in its beak.

Heidiwch i un o warchodfeydd natur yr RSPB

Mae natur yn adfywio, ac mae antur yn yr aer.  Mae tymor nythu’r adar wedi cychwyn, mae adar mudol y gwanwyn wedi dychwelyd ac mae pawb yn mentro i’r awyr agored eto. Mae nifer rhyfeddol o 18,700 o rywogaethau wedi eu cofnodi yng ngwarchodfeydd yr RSPB. Ewch i’ch gwarchodfa leol er mwyn gweld natur yn ffynnu â’ch llygaid eich hun. 

Mae gwarchodfeydd natur yn fwy na llefydd i ymweld â nhw yn unig, dyma ble mae ein gwaith i achub byd natur yn digwydd.  Yn 1997, dim ond 11 Aderyn y Bwn gwrywaidd oedd yn y Deyrnas Unedig.  Ond, drwy greu cynefin iddynt yn ein gwarchodfeydd natur, mae’r nifer hwnnw wedi codi, ac erbyn hyn mae dros 200 ohonynt.