Achub Un o bob Chwech
Mae’r DU yn enwog am ei bywyd gwyllt anhygoel, ond mae’r pwysau cynyddol ar ein bywyd gwyllt yn golygu bod un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu o Brydain Fawr, ac yng Ngogledd Iwerddon, mae 12% o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.
![Aderyn Drycin Manaw](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:d6498735-afcd-463a-a695-8add16e6e644/2139694_Species_Birds_Manx_Shearwater_Cropped.jpg)
On this page
Dychmygwch pe bai ein clogwyni môr yn tawelu ac nad oeddent bellach yn llawn adar môr fel y Gwylanod Coesddu a’r Palod yn creu stŵr. Gallai awyr yr haf fod yn wag o’r Wennol Ddu, a chân y Gylfinir yn hen hanes o amgylch ein hucheldiroedd.
Yn ôl Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2023, mae'r DU bellach yn un o'r gwledydd lle mae byd natur wedi dirywio fwyaf ar y Ddaear. Mae’r Alban mewn perygl o golli un o bob naw rhywogaeth, gyda Chymru’n wynebu colled bosibl o 18% o rywogaethau.
Mae’n amlwg bod angen i ni wneud llawer mwy i achub ein bywyd gwyllt cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Rydym ni’n gweithredu i helpu i achub tua 100 o rywogaethau, neu grwpiau o rywogaethau, sydd fwyaf mewn angen.
Dim ond gyda’ch help chi y mae ein gwaith yn bosibl.
Gyda’ch help chi, gallwn fynd â natur sydd dan fygythiad i ffynnu
Gyda’ch help chi, gall natur ffynnu eto
Gylfinir
Roedd y Gylfinir yn wynebu risg o ddifodiant yng Ngogledd Iwerddon. Drwy greu cynefinoedd nythu a monitro cywion bach, mae’r project Curlew LIFE wedi adfer gobaith i’r rhywogaeth.
Mae’r project yn gweithio gyda phartneriaid ledled y Deyrnas Unedig, a’i nod yw rhoi hwb i boblogaethau adar sy’n bridio mewn pum gwahanol leoliad. Eleni, mae Gylfinirod yn ôl ar eu nythod ym mhob un o’r safleoedd, ond mae’r dechrau oer a llaith i’r gwanwyn wedi achosi rhai oediadau ac, mewn rhai achosion, dinistr.
Mae Gylfinirod yn wynebu amryw o heriau drwy gydol y tymor bridio, ac mae nythod cynnar yn Lough Erne a Mur Hadrian eisoes wedi dioddef ysglyfaethu. Yn y cyfamser, fe wnaeth rhai o’r nythod cyntaf yn RSPB Insh Marshes ddioddef llifogydd oherwydd glaw trwm ar ddechrau’r tymor bridio.
Mae’n dal i fod yn gynnar yn y tymor, fodd bynnag, ac mae’r timau’n dal i ddarganfod mwy o nythod – a phob un yn llawn gobaith ar gyfer dyfodol y rhywogaeth. Mae eich cefnogaeth yn golygu y gallwn ddiogelu mwy o’r adar hyn sy’n bridio ar yr adeg hollbwysig hon. Nawr, mae pob cyw bach yn bwysig.
![Cywion Y Gylfinir](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:b3b2ba58-d251-4c1b-ad86-bab3b8197528/2217268_Species_Birds_Chicks-in-nest_.jpg)
Pâl Manaw
Dros wythnosau diwethaf y gwanwyn, mae Palod Manaw wedi bod yn dychwelyd i’n glannau. Ar ynysoedd megis Ramsey, Lundy, St Agnes a Gugh, mae eich cefnogaeth wedi helpu niferoedd Pâl Manaw i gynyddu eto ar ôl ein gwaith i gael gwared â llygod mawr anfrodorol sy’n ysglyfaethu ar eu hwyau a’u cywion.
Yn 2000, roedd 297 pâr o adar yn bridio ar Lundy. Y llynedd, bron i ugain mlynedd ar ôl dechrau’r gwaith i gael gwared â’r llygod mawr, roedd 12,600 pâr o Balod Manaw yn bridio ar yr ynys. Diolch i chi, ni allwn aros i weld faint o adar ifanc a ddaw allan o’u gwalau yn nes ymlaen yn y tymor.
![Aderyn Drycin Manaw](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:f220e6ad-93ac-4545-a495-66f2c89d959c/145072195-Species-Manx-Shearwater-swimming.jpg)
Llyffantod y Twyni
Mae Llyffantod y Twyni ymysg ein hamffibiaid mwyaf prin. Oherwydd ailbwrpasu tir, roedd y pyllau tywodlyd bas lle maent yn bridio wedi mynd yn brin.
Diolch i chi, rydym wedi gallu creu cynefin bridio newydd ar warchodfeydd RSPB, megis Mereshead a’r Lodge. O ganlyniad, mae eu niferoedd wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Y gwanwyn hwn, rydym eisoes yn gweld arwyddion cynnar llwyddiant wrth i niferoedd penbyliaid gyrraedd y miloedd. Dros yr wythnosau nesaf, bydd timau ein gwarchodfeydd yn aros yn eiddgar i fesur llwyddiant metamorffosis eu Llyffantod y Twyni.
![Llyffant y Twyni](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:1bf19294-c566-4dd0-b1d8-648d037f8bfd/217901_Species_natterjack-1600x1000.jpg)
Llymrïaid a Phalod
Mae niferoedd Gwylanod Coesddu a Phalod wedi gostwng yn ddramatig wrth i lymrïaid ddiflannu o’n moroedd. Ar ôl 25 mlynedd o ymgyrchu, gyda chymorth cefnogwyr fel chi, mae Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a’r Alban wedi cytuno i ddiweddu pysgota llymrïaid diwydiannol o’r diwedd yn holl ddyfroedd yr Alban ac ym Môr y Gogledd yn Lloegr. Fodd bynnag, yn yr wythnosau diwethaf, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi herio’r penderfyniad. Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â mudiadau amgylcheddol eraill, gan ddefnyddio ein lleisiau i achub ein hadar môr.
![Pâl](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:e55c3c91-a9f2-43b3-8014-67d853f2f845/2210344-Species_Birds-Puffin.jpg)
Y Wennol Ddu
Mae’r Wennol Ddu bellach yn ymddangos ar y Rhestr Goch o adar sy’n peri pryder cadwraethol. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Barratt Developments PLC, sydd wedi gosod dros 5,000 o frics ar gyfer Gwenoliaid Duon yn eu hadeiladau newydd i’w hannog i nythu yn ein trefi a’n dinasoedd.
![Y Wennol Ddu](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:30957126-0285-4461-8783-f6a47ae10f24/2098189-Species_Birds_Swift-Brick.jpg)
Turturod
Dylai gwrychoedd prysgog tir amaeth y Deyrnas Unedig fod yn llawn galwadau grwndi Turturod drwy gydol y gwanwyn a’r haf.
Ar ôl trydedd flwyddyn o atal hela’r rhywogaeth hon yn ne-orllewin Ewrop, mae niferoedd y golomen fudol hoff hon sy’n dychwelyd i’r Deyrnas Unedig yn cynyddu. Gyda’ch cymorth chi, mae’r tîm Operation Turtle Dove yn gweithio gyda dros 370 o ffermwyr i sicrhau eu bod yn dod o hyd i gynefin bridio delfrydol ar ôl cyrraedd. Mae ffermwyr ledled de a dwyrain Lloegr wedi cael cymorth i greu mwy o lwyni prysgog ar gyfer nythu ac ymylon caeau llawn hadau ar gyfer bwydo, ac mae llawer o adar eisoes wedi bod yn manteisio ar y cynefin newydd hwn.
Diolch i chi, rydym yn gobeithio gweld cenhedlaeth nesaf yr adar hyn yn magu plu cyn bo hir, gan nodi dechrau adferiad rhyfeddol i’r rhywogaeth.
![Y Durtur](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:cc8b538d-e235-4ae8-a89d-918005e1fa5e/2217622_Species_Birds_Turtle-Dove-cropped-1600x1000.jpg)
Llygod y Dŵr
Mae Llygod y Dŵr wedi diflannu o 94% o’r mannau lle roedden nhw’n arfer ffynnu, oherwydd ysglyfaethu a cholli cynefinoedd. Mewn partneriaeth â Cumbria Connect, Ymddiriedolaeth Afonydd Eden, ac Asiantaeth yr Amgylchedd, rhyddhawyd 204 o Lygod y Dŵr a fagwyd mewn caethiwed yn Wild Haweswater y llynedd.
![Llygod y Dŵr](https://base-prod.rspb-prod.magnolia-platform.com/.imaging/focalpoint/_WIDTH_x_HEIGHT_/dam/jcr:d3fa16bb-483c-4f8e-8ed5-ae29dfece410/2099188_Species_Mammals-Water-Vole-cropped.jpg)
Rydym hanner ffordd yno!
Diolch i’ch rhoddion hael, rydych yn ein helpu i atal rhywogaethau rhag diflannu o’n glannau. Mae ein hapêl Un o bob Chwech wedi cyrraedd:
£80,000
Rydym yn gobeithio codi £140,000 i helpu rhywogaethau dan fygythiad i ffynnu.
Gallai eich rhodd unigol neu reolaidd ein helpu i weithredu i warchod tua 100 o rywogaethau blaenoriaeth a chefnogi llawer mwy, yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd.
Cyfrannu i achub bywyd gwyllt
Gallai eich cyfraniad neu rodd cyson warchod tua 100 o rywogaethau blaenoriaeth a bod o fudd i lawer mwy o rywogaethau, yma yn y DU a ledled y byd.