Mae’r dadansoddiad economaidd newydd, a gyhoeddwyd heddiw, yn dangos bod y gyllideb amaethyddol bresennol yng Nghymru hanner y swm sydd ei angen i gyrraedd targedau adfer natur a hinsawdd drwy ffermio a defnydd tir, ac i roi ffermio Cymru ar sylfaen fwy cynaliadwy.
Canfu’r dadansoddiad annibynnol, a gomisiynwyd gan RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru, fod cynyddu buddsoddiad Cymru i £594 miliwn y flwyddyn yn hanfodol er mwyn ariannu ffermwyr yng Nghymru wrth fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd, ac i ddarparu dyfodol cynaliadwy ar gyfer cynhyrchu bwyd. Ledled y DU mae angen i'r ffigwr blynyddol gynyddu i £5.9 biliwn.
Mae’r adroddiad “Maint yr Angen” yn adeiladu ar ddadansoddiadau blaenorol, gan roi'r asesiad mwyaf cywir hyd yma o'r buddsoddiad sydd ei angen i alluogi ffermwyr i ddarparu natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd. Mae’r ffigurau newydd yn cynnwys, am y tro cyntaf, ddadansoddiad manwl o wahanol fathau o ffermydd a chostau amrywiol adfer natur ar draws sectorau gwahanol a ffermydd o feintiau gwahanol.
Daw’r dadansoddiad newydd i’r casgliad y bydd y gyllideb amaethyddol flynyddol gyfredol yng Nghymru o tua £300 miliwn, yn annigonol i fodloni targedau natur a hinsawdd.