Press Release

Mae adar môr Cymru mewn perygl enbyd

Adroddiad newydd sy’n archwilio effaith Ffliw Adar Pathogenig Iawn yn cadarnhau dirywiad difrifol

Posted 5 min read
  • Mae adroddiad newydd gan yr RSPB wedi ceisio mesur effeithiau’r achosion diweddar o Adar Pathogenig Iawn (HPAI) ar boblogaethau adar y môr yn y DU am y tro cyntaf.
  • Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ddirywiad sylweddol yn nifer yr Huganod, y Gwylanod Penddu, y Gwylanod Cefnddu Lleiaf, y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu ledled Cymru.
  • Mae arolygon diweddar yn dangos bod rhai o adar môr Cymru mewn trafferthion enbyd, gyda ffliw adar yn ychwanegu at y bygythiadau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys cael eu rheibio gan famaliaid anfrodorol a newid hinsawdd.

 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw wedi ceisio mesur effaith Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) ar adar y môr yn y DU am y tro cyntaf.

Tybid bod HPAI yn destun pryder sylweddol o ran cadwraeth, o ystyried y miloedd o adar yr amcangrifwyd eu bod wedi marw, ond mae'r astudiaeth newydd hon wedi datgelu maint yr effaith. Mae’n dangos bod effaith HPAI – sy’n cael ei adnabod yn fwy cyffredin fel ffliw adar – wedi gwrthdroi’n llwyr rai o’r tueddiadau cadarnhaol a ddatgelwyd y llynedd yng nghyhoeddiad y cyfrifiad adar môr cenedlaethol diweddaraf, ‘Seabirds Count’.

Roedd Huganod, Môr-wenoliaid Cyffredin a Môr-wenoliaid Pigddu ymysg yr un ar ddeg o rywogaethau a oedd yn cynyddu mewn niferoedd yng Nghymru cyn yr achosion o ffliw adar, a gofnodwyd gyntaf yn y DU yn 2021. Mae’r adroddiad heddiw yn datgelu bod nifer yr Huganod wedi gostwng 54% yng Nghymru ers 2015, sy’n drychinebus, a bod niferoedd y Môr-wenoliaid Cyffredin a’r Môr-wenoliaid Pigddu hefyd wedi gostwng dros 40%. Roedd 10% o boblogaeth Huganod Prydain ac Iwerddon i’w gweld yng Nghymru, sy’n golygu bod goblygiadau’r dirywiad hwn yn rhyngwladol.

Mae Gwylanod Penddu yn rhywogaeth sydd ar y rhestr Goch oherwydd bod eu niferoedd wedi gostwng o'r blaen, a’r rhain sydd wedi dioddef y gostyngiad mwyaf (-77%) o’r holl rywogaethau adar y môr yng Nghymru ers cyfrifiad Seabirds Count yn 2015–21.  Ar ben hynny, mae niferoedd y Gwylanod Cefnddu Lleiaf wedi gostwng 24% o nythfeydd naturiol.

Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu, yn y safleoedd a arolygwyd, bod niferoedd rhywogaethau eraill fel Gwylanod Coesddu a Gwylanod Penwaig yn dal i ostwng mewn safleoedd nythu naturiol. Roedd y rhywogaethau hyn yn dirywio cyn yr achosion o ffliw adar oherwydd y llu o fygythiadau eraill y mae adar y môr yng Nghymru yn eu hwynebu, ond mae’n debygol bod y clefyd wedi effeithio mwy ar rai ohonynt.

Daeth ffliw adar i’r amlwg fel bygythiad newydd a sylweddol i adar môr y DU yn 2022. Mae prinder bwyd oherwydd newid hinsawdd, arferion pysgota anghynaliadwy, rhywogaethau estron goresgynnol ar ynysoedd, sgil-ddalfa (anifeiliaid yn boddi ar ôl cael eu dal yn ddamweiniol mewn offer pysgota), yn effeithio ar y moroedd y mae adar y môr yn dibynnu arnynt ac sy’n hanfodol bwysig iddynt, a gallai datblygiadau alltraeth wedi’u lleoli’n wael beri risg bellach.

Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru:

“Mae poblogaethau adar môr Cymru yn bwysig yn rhyngwladol, ac mae’r adroddiad heddiw yn ychwanegu rhagor o dystiolaeth, pe bai ei hangen, bod angen gweithredu ar frys i’w hachub. Rydyn ni’n croesawu ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr ar gyfer Cymru. Mae’n hanfodol bod y Strategaeth yn cael ei chyhoeddi eleni a’i bod yn neilltuo cyllid ar gyfer cadwraeth adar y môr, yn dylanwadu ar sut rydyn ni’n defnyddio ein moroedd, ac yn helpu nythfeydd i ehangu y tu hwnt i’r safleoedd bridio presennol er mwyn meithrin cadernid ehangach. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod poblogaethau’n cael eu paratoi’n well ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol”.

  • Mae'r datganiad saesneg ar gael yma